You are on page 1of 1

Mae SgiliauCymru yn chwilio am Lysgenhadon ar gyfer digwyddiad

SgiliauCymru eleni - pam ddylech chi gymryd rhan?

Mae gan bobl ifanc ddewis eang o opsiynau gyrfaol ac mae’n hynod bwysig eu bod
yn deall pob cyfle sydd ar gael iddynt yn ystod y cyfnod allweddol yma’n eu
bywydau. Er mwyn cefnogi hyn, mae SgiliauCymru yn chwilio am Lysgenhadon i
helpu pobl ifanc gyda’u hopsiynau gyrfaoedd drwy gynnig cyngor, cyfarwyddyd a
drwy rannu eu profiadau gyrfaol eu hunain gydag eraill yn ystod y digwyddiad.

Gall Llysgenhadon gynnwys prentisiaid, gweithwyr, graddedigion neu fyfyrwyr coleg.


Mae’r trefnwyr yn chwilio am Lysgenhadon o lu o gefndiroedd gwahanol er mwyn
sicrhau bod ymwelwyr yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall yr
opsiynau sydd ar gael a gweld sut gall eu dealltwriaeth a’u sgiliau eu helpu nhw wrth
iddynt ddewis gyrfa addas.

Bydd Ardal i Lysgenhadon yn y ddau ddigwyddiad, yng Nghaerdydd (10 a 11 Hydref)


ac yn Llandudno (17 a 18 Hydref), lle gall Llysgenhadon arddangos eu gwaith, eu
sefydliad, neu gynnig cymorth un-i-un.

Manteision bod yn Llysgennad:

 Cyfrannu helpu pobl ifanc i ddechrau ar eu siwrnai gyrfa

 Cyfle gwych i wella eich sgiliau cyfathrebu a phrofiad ar gyfer eich CV

 Cymryd rhan yn ymgyrch farchnata a PR SgiliauCymru

 Bydd llysgenhadon o sefydliadau sy’n arddangos eu gwaith yn manteisio ar


bresenoldeb amlwg yn y digwyddiad ac yn medru cyfeirio ymwelwyr sydd â
diddordeb i’w stondin.

Dod yn Llysgennad

Os oes gennych ddiddordeb neu’n gwybod am unrhyw gydweithwyr, prentisiaid,


myfyrwyr, graddedigion neu ffrindiau a all fod â diddordeb, anfonwch yr e-bost yma
ymlaen atynt. Mae’r ffurflen gais wedi’i hatodi, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw
dydd Mercher, 10 Hydref 2018

Cofiwch mae cyfle gwirfoddol yw hwn.

You might also like